Jean Améry

Ysgrifwr a nofelydd Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg oedd Jean Améry (Hanns Chaim Mayer; 31 Hydref 191217 Hydref 1978) a wnâi dynnu ar ei brofiadau o'r Holocost yn ei waith.

Ganed Hanns Chaim Mayer yn Fienna, Awstria-Hwngari, yn fab i dad Iddewig a mam Gatholig. Yn sgil marwolaeth ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei fagu'n Gatholig. Astudiodd athroniaeth yn Fienna. Yn sgil yr Anschluss ym 1938, ffoes i Ffrainc, ac yna i Wlad Belg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n aelod o'r gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg, a chafodd ei garcharu mewn gwersylloedd crynhoi yn Gurs, yn ne-orllewin Ffrainc, ac Auschwitz yng Ngwlad Pwyl. Ar ddiwedd y rhyfel, wrth i'r lluoedd Sofietaidd agosáu, cafodd ei symud i wersylloedd Buchenwald a Bergen-Belsen.

Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn newyddiadurwr. Daeth i'r amlwg pan ddechreuodd ysgrifennu am ei brofiad yn yr Holocost yng nghanol y 1960au. Darllenodd ei ysgrifau ar y radio, ac ym 1964 cychwynnodd ar sawl taith ddarlithio trwy'r Almaen ym 1964. Mabwysiadodd y ffugenw Ffrangeg Jean, cyfeiriad at Jean-Paul Sartre, ac Améry, anagram o'i gyfenw Mayer. Bu farw yn 65 oed trwy hunanladdiad, o orddos o gyffuriau tawelu, mewn gwesty yn Salzburg.

Derbyniodd wobr lenyddol oddi ar Academi Celfyddydau Cain Bafaria ym 1972, a gwobrau Fienna a Lessing ym 1977. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 11 canlyniadau o 11 ar gyfer chwilio 'Améry, Jean', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Améry, Jean, Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2007
    Rhif Galw: Wk Ame 1
    Llyfr
  2. 2
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2008
    Rhif Galw: Wk Ame 9
    Llyfr
  3. 3
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2004
    Rhif Galw: Wk Ame 6
    Llyfr
  4. 4
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2003
    Rhif Galw: Wk Ame 5
    Llyfr
  5. 5
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2006
    Rhif Galw: Wk Ame 4
    Llyfr
  6. 6
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2005
    Rhif Galw: Wk Ame 3
    Llyfr
  7. 7
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2002
    Rhif Galw: Wk Ame 2
    Llyfr
  8. 8
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 2007
    Rhif Galw: Wk Ame 1
    Llyfr
  9. 9
    gan Améry, Jean
    Cyhoeddwyd 1982
    Rhif Galw: Ne Ame
    Llyfr
  10. 10
    gan Benda, Julien
    Cyhoeddwyd 1978
    Awduron Eraill: “...Améry, Jean...”
    Rhif Galw: Ic Ben
    Llyfr
  11. 11
    Cyhoeddwyd 1979
    Awduron Eraill: “...Amery, Jean...”
    Rhif Galw: Wcc4 Raa
    Llyfr