Martin Walser
Awdur cyfoes o'r Almaen yw Martin Walser (24 Mawrth 1927 – 26 Gorffennaf 2023). Yn aml ceir gwrth-arwr yn ei nofelau. Enillodd sawl gwobr Almaeneg yn cynnwys Gwobr Heddwch Frankfurt ym 1998. Fe'i anwyd yn Wasserburg am Bodensee, ar y Bodensee (llyn Constance). Roedd ei rieni yn cadw tafarn a hefyd yn gwerthu glo. Aeth i'r ysgol uwchradd yn Lindau o 1938 i 1943 - Daeth yn aelod gorfodol o'r Blaid Nazi yn Ebrill 1944 yn 17 oed ac roedd rhaid iddo wasanaethu yn y Wehrmacht (byddin yr Almaen) ym mlwyddyn olaf y rhyfel. Wedi'r rhyfel aeth yn ôl i astudio a gwnaeth Radd Hanes a Llên ym Mhrifygolion Regensburg a Tübingen. Cwblhaodd thesis ar Franz Kafka ym 1951 cyn droi yn ysgrifennwr i'r radio efo Süddeutscher Rundfunk.Priodwyd Katharina "Käthe" Neuner-Jehle ym 1950, ac mae ganddynt pedair merch, i gyd yn eithaf enwog ym myd celf yr Almaen. Mae plentyn siawns, mab, Jakob Augstein, ganddo fo hefyd ar ôl perthynas efo'r gyfieithwraig Maria Carlsson. Mae'n aelod o'r Gruppe 47 o awduron ifanc wedi'r rhyfel. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf 'Ehen in Philippsburg' ym 1957. Ei waith enwocaf yw Ein fliehendes Pferd (Ceffyl ar ffoi), 1978, sydd ar restr darllen yr ysgolion yn yr Almaen.
Mae hefyd yn aelod o Akademie der Künste (Academi'r celfyddydau) ym Merlin, a'r Deutsche Akademie für Sprache und Dichtung (Academi Almaeneg am Lên a Barddoniaeth). Cyfieithwyd ei waith i Saesneg ac i Sbaeneg yn arbennig. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2Pennod Llyfr
-
3Pennod Llyfr
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20