Marlene Streeruwitz
|dateformat=dmy}}Awdures o Awstria yw Marlene Streeruwitz (ganwyd 28 Mehefin 1950) sydd wedi gweithio fel bardd, actores a chyfarwyddwraig theatr yn ogystal â fel awdur.
Ganwyd Marlene Streeruwitz i deulu cefnog yn Awstria, yn Baden bei Wien. Roedd ei thad yn wleidydd ac yn ddiweddarach daeth yn faer y dref. Dechreuodd ei diddordeb mewn llenydda yn dilyn ei hysgariad, er na chyhoeddodd unrhywbeth am rhyw 14 mlynedd arall. Gwnaeth enw iddi ei hun fel awdur y ddrama radio ''Kaiserklamm. Und. Kirchenwirt'' (1989) ac yn arbennig felly yn dilyn llwyddiant y dramâu ''Waikiki-Beach'' a ''Sloane Square'' gafodd eu llwyfannu yn Nghwlen. Derbyniodd sawl gwobr am ei gwaith, yn cynnwys yr ''Hermann-Hesse-Preis'' (2001), ''Literaturpreis der Stadt Wien'' (Gwobr Llên gan Ddinas Fiena, 2001) a'r ''Droste-Preis'' (2009).
Astudiodd y Gyfraith a Ieithoedd Slafonaidd ym Mhrifysgol Fienna, ond rhoddodd y gorau i'w hastudiaethau er mwyn priodi a magu teulu. Yn ogystal â bod yn ddramodydd llwyddiannus, mae hi hefyd yn adnabyddus fel bardd, ac am ddarllen ei gweithiau ei hun megis ''Sein. Und Schein. Und Erscheinen'' (1997) a ''Können. Mögen. Dürfen. Sollen. Wollen. Müssen. Lassen'' (1998) yn Tübingen a Frankfurt. Cyhoeddodd hefyd nofelau a straeon byrion. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4gan Broch, Hermann, Frisch, Max, Plenzdorf, Ulrich, Seidel, Georg, Strauss, Botho, Streeruwitz, Marlene, Weiss, Peter
Cyhoeddwyd 1991Rhif Galw: Wd Spe 52 MagazinLlyfr