Kurt Schwitters
Arlunydd arloesol o'r Almaen oedd Kurt Schwitters (ganwyd Herman Edward Karl Julius Schwitters, 20 Mehefin 1887 – 8 Ionawr 1948).Arbrofodd gyda steil Ciwbaidd a Mynegiadaeth ''(expressionist)'' ac yn 1919 creuodd waith ''collage'' a defnyddiodd y term “Merz,” ar gyfer ei holl waith creadigol o farddoniaeth, ''collage'' a cerflunwaith.
Roedd yn rhan o'r grŵp Dada ym Berlin ar ddechrau 1920au gyda Jean Arp and Raoul Hausmann a Hannah Höch. Roedd yn rhan o'r arddangosfa yn ''Der Sturm'' a chyfrannodd i'r cylchgrawn ''Der Sturm'' .
Gydag Arp, mynychodd y ''Kongress der Konstructivisten'' yn Weimar ym 1922. Yno daeth yn ffrindau gyda'r arlunydd Iseldireg Theo van Doesburg a dylanwadwyd gan ei waith De Stijl.
Rhwng 1923 i 1932 cyhoeddodd cylchgrawn ''Merz'' gan arbrfi gyda dulliau Teipograffi a dechreuodd ar ei ''Merzbau'' - cerflunwaith a daeth i lenwi ei stiwdio yn Hannover. Cafodd ei waith eu cynnwys yn arddangosfeydd Ciwbaidd, Dada, Haniaethol ''(abstract)'' a Swrreal yn Zürich, Paris ac Efrog Newydd.
Hefyd rhwng 1923 a 1932 cyfansoddodd ''Ursonate -'' barddoniaeth sain a dylanwadwyd gan Raoul Hausmann. Mae'r cerdd yn defnyddio seiniau yn hytrach na geiriau arferol.
Yn 1937 cafodd Schwitters a llawer iawn o artistiaid a llenorion eu gwahadd gan y Natsïaid. Cafodd eu gwaith ei alw'n ''Entartete Kunst'' - 'Celf Ddirywiedig'. Trefnodd y Natsïaid arddangosfeydd o waith 'dirywiedig' gan rhoi cyfle i'r cyhoedd chwerthin ar ei ben. Distrywid llawr o'r darluniau a llosgwyd llyfrau. Fel llawer o arlunwyr, iddewon a gwrthwynebyr y Natsïad yn gyffredinol, roedd rhaid i Schwitters dianc yr Almaen rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ladd.
Symudodd I Norwy a wedyn Lloegr. Yn Lloegr cafodd ei garcharu am dros flwyddyn gyda llawr o bobl eraill oedd wedi ffoi o'r Almaen ac Awstria, writh i'r llywodraeth yn poeni am sbïwyr. Bu farw yn Kendel ym 1947 bawd|300px|chwith|Tudalen o gatalog yr arddangosfa ''Entartete Kunst'' - 'Celf Ddirywiedig', a drefnodd y Natsïaid. Mae llun o ''Merzbild'' gan Schwitters (chwith isaf). Cafodd y darluniau eu distrwyio gan y Natsïaid. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6