Ted Hughes

Awdur a bardd Saesneg a sgwennai ar gyfer oedolion a phlant oedd Edward James Hughes (Ted Hughes) OM (17 Awst 193028 Hydref 1998). Adnabyddir ef gan feirniaid llenyddol fel un o lenorion gorau ei oes.

Priododd y bardd o Unol Daleithiau America, Sylvia Plath, yn 1956, ond fe laddodd hi ei hun hi yn 1963 yn ddim ond 30 oed. Daeth ei ran yn y berthynas yn ddadleuol, yn rhannol oherwydd safbwynt rhai ffeminyddion ac edmygwyr Plath yn yr Unol Daleithiau, a aeth mor bell â'i gyhuddo o lofruddiaeth. Ni gymerodd Ted Hughes ei hun ran yn y dadleuon yn gyhoeddus, ond dadlenodd y ''Birthday Letters'' (1998), eu perthynas cymhleth, ac i nifer, rhoddwyd ef mewn golau gwell o'i herwydd.

Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1984, yn dilyn marwolaeth John Betjeman ac fe'i olynwyd gan Andrew Motion wedi marwolaeth Hughes.

Porteadwyd ef yn 2003 gan yr actor Daniel Craig yn y ffilm ''Sylvia'', ffilm fywgraffiadol am Sylvia Plath. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Hughes, Ted', amser ymholiad: 0.09e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Hughes, Ted
    Cyhoeddwyd 2002
    Rhif Galw: Wn Hugh
    Llyfr
  2. 2
    gan Hughes, Ted
    Cyhoeddwyd 2003
    Rhif Galw: Wn Hugh
    Llyfr