Max Frisch

Dramodydd a nofelydd Swisaidd oedd Max Rudolf Frisch (15 Mai 19114 Ebrill 1991) sydd yn nodedig am ei bortreadau o gyfyng-gynghorau moesol ym mywyd yr 20g. Dylanwadwyd arno yn gryf gan Bertolt Brecht a Thornton Wilder, ac mae nifer o'i ddramâu—yn eu plith ''Andorra'' (1961)—yn ymwneud â ffawd dyn a'r trafferthion o'i sylweddoli yn y gymdeithas gyfoes.

Ganed ef yn Zürich, y Swistir. Astudiodd lenyddiaeth Almaeneg ym Mhrifysgol Zürich, ond ym 1933 gadawodd y brifysgol heb ennill ei radd er mwyn cychwyn ar yrfa fel newyddiadurwr. Teithiodd ar draws de a dwyrain Ewrop o 1934 i 1936, cyn ddychwelyd i Zürich i astudio pensaernïaeth. Gwasanaethodd ym myddin y Swistir yn yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn bensaer tra'n ysgrifennu yn ei amser rhydd.

Drama foes yw ei waith cyntaf a berfformiwyd ar y llwyfan, ''Nun singen sie wieder'' (1945), sydd yn defnyddio tablos swrealaidd i ddadlennu safbwyntiau rhyfelwyr a dioddefwyr yn ystod y rhyfel. Mae ei ddramâu eraill yn cyfnod cychwynnol ei yrfa yn cynnwys y ddwy felodrama hanesyddol ''Die chinesische Mauer'' (1947) ac ''Als der Krieg zu Ende war'' (1949), yr esiampl dreisgar o feirniadaeth gymdeithasol ''Graf Öderland'' (1951), a'r addasiad o chwedl Don Juan, ''Don Juan oder die Liebe zur Geometrie'' (1953). Rhodd Frisch y gorau i bensaernïaeth ym 1955 i lenora llawn-amser.

Mae dramâu eraill Frisch yn cynnwys y ddrama ddamhegol ''Biedermann und die Brandstifter'' (1958), ''Andorra'' (1961), a ''Biografie'' (1967). Mae ei nofelau cynnar yn cynnwys ''Stiller'' (1954), ''Homo Faber'' (1957), a ''Mein Name sei Gantenbein'' (1964), sydd yn portreadu agweddau ar fywyd deallusol modern ac yn archwilio thema hunaniaeth. Mae ei nofelau diweddar yn cynnwys ''Montauk: Eine Erzählung'' (1975), ''Der Mensch erscheint im Holozän'' (1979), a ''Blaubart'' (1982). Cyhoeddodd hefyd sawl gwaith hunangofiannol, gan gynnwys day ddyddiadur, ''Tagebuch 1946–1949'' (1950) a ''Tagebuch 1966–1971'' (1972).

Bu farw Max Frisch yn Zürich o ganser yn 79 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 36 ar gyfer chwilio 'Frisch, Max', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Erthygl
  2. 2
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 2016
    Rhif Galw: Bc Fri
    Llyfr
  3. 3
    Pennod Llyfr
  4. 4
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd yn _93416
    Pennod Llyfr
  5. 5
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd yn Spectaculum 52
    Pennod Llyfr
  6. 6
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 7
    Llyfr
  7. 7
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 6
    Llyfr
  8. 8
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 5
    Llyfr
  9. 9
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 4
    Llyfr
  10. 10
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 3
    Llyfr
  11. 11
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 2
    Llyfr
  12. 12
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 1
    Llyfr
  13. 13
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Wk Fri 1-7
    Llyfr
  14. 14
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 2017
    Rhif Galw: Bc Fri
    Llyfr
  15. 15
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 2014
    Rhif Galw: Wk Fri
    Llyfr
  16. 16
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: BS Fri
    Llyfr
  17. 17
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 2011
    Rhif Galw: Wk Fri
    Llyfr
  18. 18
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: Bc Fri
    Llyfr
  19. 19
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 1961
    Rhif Galw: Bc Fri
    Llyfr
  20. 20
    gan Frisch, Max
    Cyhoeddwyd 2010
    Rhif Galw: Wk Fri
    Llyfr