Sigrid Damm
| dateformat = dmy}}Awdures o'r Almaen yw Sigrid Damm (ganwyd 7 Rhagfyr 1940) sy'n ysgolhaig llenyddiaeth Almaeneg ac yn awdur nifer o ysgrifau ar y "Weimar Viergestirn" Wieland, Goethe, Herder a Schiller.
Fe'i ganed yn Gotha, Thuringia yn yr Almaen ar 7 Rhagfyr 1940.
Yn Gotha hefyd y'i magwyd ac addysgwyd hi yn yr ''Arnoldischule'', gan raddio yn 1959. O 1959 i 1965 astudiodd lenyddiaeth a hanes Almaeneg ym Mhrifysgol Jena, neu'r ''Friedrich-Schiller-Universität Jena''. Wedi hynny, bu'n gweithio fel darlithydd prifysgol yn Jena a Berlin. Yn 1970 enillodd ei doethuriaeth mewn athroniaeth a gweithiodd fel awdur yn ''Verlag Volk und Wissen'' a gyhoeddwyd dan y teitl "Hanes Llenyddiaeth yr Almaen" (''Geschichte der deutschen Literatur'').
Ers 1978 mae hi'n byw fel awdur llawrydd yn Berlin. Ym 1993 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Caeredin a Glasgow, ac yn 1994 ym Mhrifysgol Hamburg.
Mae Sigrid Damm yn awdur gweithiau ar bobl llenyddiaeth glasurol y Weimar, yn bennaf. Ysgrifennai mewn cymysgedd o fywgraffiadau a ffuglen ar gyfaill plentyndod Goethe, sef Jakob Michael Reinhold Lenz a gwraig Goethe, Christiane von Goethe. Daeth hyn ag enwogrwydd mawr iddi.
Mae Sigrid Damm yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen ac Academi Gwyddorau a Llenyddiaeth Mainz. Ar 14 Rhagfyr 2010, hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn dinasyddiaeth anrhydeddus ei man geni, Gotha, a roddwyd iddi gan gyngor y ddinas. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6