Edward Albee
Dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd Edward Franklin Albee III (12 Mawrth 1928 – 16 Medi 2016), yn fwyaf adnabyddus am ddramâu megis ''The Zoo Story'' (1958), ''The Sandbox'' (1959), ''Who's afraid of Virginia Woolf?'' (1962) ac ''A Delicate Balance'' (1966). Enillodd tri o'i ddramau'r Wobr Pulitzer ar gyfer Drama, ac enillodd dau o'i ddramau eraill y Wobr Tony am y ddrama orau.Mae ei ddramâu yn aml yn cael eu hystyried fel ymchwiliadau didwyll i'r cyflwr modern. Ei weithiau cynnar yn adlewyrchu meistrolaeth ac Americaneiddio y ''Theatr yr Absẃrd'' a daeth i'w hanterth yng ngwaith dramodwyr Ewropeaidd megis Arthur Adamov Samuel Beckett, Eugène Ionesco, a Jean Genet.
Mae ei gyfnod canol yn cynnwys dramâu sy'n edrych ar seicoleg o aeddfedu, priodas, a pherthnasu rhywiol. Bu nifer o ddramodwyr Americanaidd iau, megis Paula Vogel, yn credydu cymysgedd Albee o waith theatrig dewr a deialog brathog am helpu i ail greu'r theatr Americanaidd yn y 1960au cynnar. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, bu Albee yn parhau i arbrofi dulliau theatrig mewn cynyrchiadau megis ''The Goat, or Who Is Sylvia? ''(2002). Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2gan Albee, Edward, Binnerts, Paul, Dorst, Tankred, Kolmar, Gertrud, Kosturi, Ronald, Walser, Theresia
Cyhoeddwyd 2000Rhif Galw: Wd Spe 71 MagazinLlyfr