Jürgen Habermas
Athronydd Almaenig yw Jürgen Habermas (ganwyd 18 Mehefin 1929). Gwyddor gwleidyddiaeth a chymdeithaseg yw ei brif feysydd, ac mae'n awdur toreithiog ar bolisi cyhoeddus a beirniadaeth gymdeithasol. Cafwyd effaith ar nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys astudiaethau cyfathrebu, astudiaethau diwylliannol, damcaniaeth foesol, y gyfraith, ieithyddiaeth, damcaniaeth lenyddol, epistemoleg, estheteg, seicoleg, ac astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth. Habermas yw un o'r athronwyr mwyaf ddylanwadol yn y byd, ac yn pontio traddodiadau'r gwledydd Saesneg ac athroniaeth gyfandirol. Yn gyffredinol, mae'n rhan o draddodiad y ddamcaniaeth gymdeithasol feirniadol a darddodd o Ysgol Frankfurt, ac yn proffesu bydolwg cynhwysfawr ar fodernedd a rhyddid.Enillodd Wobr Erasmus yn 2013. Darparwyd gan Wikipedia
-
41
-
42
-
43
-
44
-
45
-
46
-
47
-
48
-
49
-
50
-
51
-
52
-
53
-
54
-
55
-
56
-
57
-
58
-
59
-
60